Croeso i Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn cynnig ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghaerdydd. Gall y tîm roi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â’r y canlynol:

  • Bywyd teuluol
  • Ymddygiad plant
  • Ofal Plant
  • Cymorth rhianta
  • Presenoldeb Ysgol
  • Cyflogaeth, arian a thai
  • Gwybodaeth a chyfeirio at wasanaethau eraill

Porth i Deuluoedd Caerdydd

Mae’r Porth i Deuluoedd yn fan cyswllt i unrhyw weithiwr proffesiynol, rhiant, plentyn neu berson ifanc i gael y wybodaeth, cyngor a chymorth sydd ei angen yng Nghaerdydd.

Mae Swyddogion Cyswllt y Porth i Deuluoedd ar gael i wrando ar eich sefyllfa, adnabod pa gefnogaeth sydd orau i chi a helpu chi i gael mynediad ati.

Gall y tîm Porth i Deuluoedd helpu chi i ddod o hyd i wasanaethau cefnogaeth gan gynnwys cyngor ariannol, tai, budd-daliadau lles, ymddygiad plant, gofal plant, presenoldeb yn yr ysgol, iechyd a lles, cymorth rhieni a llawer mwy.

Mae’r Porth i Deuluoedd yn gweithio ochr yn ochr ac yn cyfeirio’n uniongyrchol at Helpu Teuluoedd a Chymorth i Deuluoedd pan a lle bo ar deuluoedd angen cefnogaeth bellach

Cysylltwch â Porth y Teulu ar 03000 133 133, trwy e-bost CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk neu’r cyfryngau cymdeithasol.

Darganfyddwch fwy ar Porth i Deuluoedd Caerdydd.

Tîm Helpu Teuluoedd Caerdydd

Mae Tîm Helpu Teuluoedd Caerdydd yn wasanaeth ymyrraeth gynnar sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth o safon i blant a phobl ifanc rhwng 0-18 oed (neu hyd at 25 oed yn achos person ifanc agored i niwed) a’u teuluoedd sy’n byw yng Nghaerdydd.

Yn gweithio ochr yn ochr ag ystod eang o asiantau cymunedol a phartneriaeth lleol, mae’r tîm yn gallu teilwra cefnogaeth i’r anghenion niferus sydd gan deuluoedd bob dydd, gan gynnig help byrdymor (fel arfer 6-12 wythnos).

Nod y tîm yn cwrdd â theuluoedd mewn lle y mae’n nhw’n gyfforddus yno, efallai yn y cartref, yr Hyb lleol neu ysgol os yw hyn yn well.

Cefnogi Teuluoedd

Gall y Gwasanaeth Cefnogaeth i Deuluoedd weithio gyda theuluoedd sy’n wynebu materion mwy cymhleth.

Gall Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd a Gweithwyr Cymdeithasol weithio gyda rhieni, plant a phobl ifanc i gael yr atebion cywir ar eu cyfer nhw a’u teuluoedd, megis:

  • Darpariaeth uniongyrchol o wahanol raglenni wedi eu seilio ar dystiolaeth i deuluoedd
  • Rhoi cymorth a chefnogaeth ymarferol
  • Bod yn weithiwr allweddol ar gyfer teulu
  • Cynghori ar ystod o wasanaethau yn y gymuned
  • Asesiadau Cyflawn Seiliedig ar y Teulu a chynlluniau cymorth

Rhianta Caerdydd

Mae Rhianta Caerdydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i rieni a theuluoedd ar draws Caerdydd gyda chyfleusterau crèche ar gael. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

  • GroBrain
  • Rhaglen Magu Plant
  • Cryfhau Teuluoedd
  • Rhieni’n Gyntaf (dan arweiniad seicoleg 1:1 cymorth rhieni)

Darganfyddwch fwy ar Rhianta Caerdydd

Ein partneriaid

Ewch i wefannau ein partneriaid am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau ar gyfer Teuluoedd Caerdydd.

Cardiff Flying Start
NHS Wales logo
Cardiff Council dragon logo
Dewis Cymru
Welsh Assembly Government - Parenting. Give it time
Children, Young People and Family Health Services logo in english