Porth i Deuluoedd Caerdydd

Family time - Young father using a laptop computer for work at home while looking after his son

Mae Porth i Deuluoedd Caerdydd yn cynnig llwybr atgyfeirio clir a hygyrch i unrhyw un sydd â phryderon lles am blentyn neu sydd am ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i deuluoedd ym mhob rhan o Gaerdydd. Mae’r Porth yn cynnig llwybr clir at wasanaethau cymorth eraill a dyma yw’r man cyswllt cyntaf ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae’r gwasanaeth yn ategu’r ddarpariaeth bresennol sydd eisoes ar gael gan y gwasanaethau addysg ac iechyd.

Mae’r Porth yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ar ystod eang o destunau a meysydd ymholiadau megis cyngor ariannol, tai, budd-daliadau lles, ymddygiad plant, gofal plant, presenoldeb yn yr ysgol, iechyd a llesiant, cymorth i rieni a llawer mwy.

Ar gyfer pwy mae Porth i Deuluoedd Caerdydd

Unrhyw weithiwr proffesiynol, rhiant, plentyn neu berson ifanc neu aelod o’r cyhoedd ledled Caerdydd sydd am gael gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch llesiant plentyn.

Beth gall pobl ei ddisgwyl gan Borth i Deuluoedd Caerdydd

Bydd Swyddogion Cyswllt yn eich helpu chi i fynd drwy’r system, yn siarad â chi am asesiad a brysbennu i drafod eich pryderon a’ch anghenion. Llwybr atgyfeirio clir at wasanaethau a darpariaethau arbenigol a phriodol. Caiff atgyfeiriadau gyda phryder diogelu clir eu cyfeirio i weithiwr cymdeithasol fydd yn gwneud penderfyniad ar y gwasanaeth mwyaf priodol i gefnogi’r teulu.

Mae’r Porth i Deuluoedd yn gweithio ochr yn ochr â thimau ‘Helpu Teuluoedd’ a ‘Cymorth i Deuluoedd’ pan fydd teuluoedd angen ymyrraeth byr-dymor neu’n wynebu materion mwy cymhleth a dwys.

Faint mae’n gostio i ddefnyddio’r gwasanaeth

Mae Porth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth am ddim.

Sut gall pobl gael mynediad at Borth i Deuluoedd Caerdydd

Gall gweithwyr proffesiynol, rhieni, plant a phobl ifanc neu aelodau’r cyhoedd gyflwyno atgyfeiriadau neu geisiadau am wybodaeth, cyngor a chymorth drwy ffonio’r Porth i Deuluoedd ar 03000 133 133, dros e-bost CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk